Rhaglen Ymgysylltu
Mae ein rhaglen Ymgysylltu wedi’i chynllunio ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed sy’n ansicr ynghylch y llwybr gyrfa y maent am ei ddilyn ac sydd angen cymorth i archwilio eu hopsiynau ar gyfer symud ymlaen.
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd (llunio CVs, chwilio am swydd, sgiliau ar gyfer cyfweliad, ymddygiad priodol yn y gwaith, ac ati) a gwella eich sgiliau rhifedd, llythrennedd a llythrenedd digidol. Yn ystod y cyfnod hwn byddwn hefyd yn cynnig sesiynau blasu i chi o blith yr holl lwybrau a gynigir gennym yn HCT:
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddod o hyd i leoliad addas i chi a datblygu llwybr cynnydd ar eich cyfer fel eich bod yn gadael y rhaglen naill ai â dilyniant i'n rhaglen Datblygu, Prentisiaeth neu gyflogaeth.
Mae hyd y rhaglen yn dibynnu ar eich nodau unigol a’ch cyflymder dysgu. Rydym yn cynnig cyfnod cychwynnol o 26 wythnos; er hynny, gan fod Twf Swyddi Cymru+ yn hyblyg ac wedi’i deilwra i’r unigolyn, gall yr amser y mae’n ei gymryd i’w chwblhau fod yn fyrrach neu’n fwy yn dibynnu ar eich anghenion.
Mae dysgwyr yn derbyn lwfans hyfforddi o hyd at £60 yr wythnos (yn seiliedig ar 30 awr yr wythnos), lwfans cinio, a gallant hawlio costau teithio rhesymol i fynychu’r rhaglen.
Arweinir rhaglen Twf Swyddi Cymru+ gan Lywodraeth Cymru.
Os hoffech wybod mwy am y rhaglen Ymgysylltu,cysylltwch â ni ar info@hctceredigion.org.uk neu ffoniwch 01970 633040.