Skip to main content
/media/1019/business-administration-banner.jpg

Gweinyddiaeth Busnes

Cynlluniwyd Diploma mewn Gweinyddiaeth Busnes ar gyfer y rheiny sy'n gweithio yn mewn rôl gweinyddu busnes neu'n gobeithio gwneud hynny neu rywbeth tebyg, er enghraifft Gweinyddwr, Swyddog Cefnogi Busnes, Cynorthwyydd Swyddfa neu Derbynnydd. Mae'r hyfforddiant wedi'i gynllunio i addysgu dysgwyr sut i wella eu perfformiad a chynhyrchiant ac arbed arian i'ch busnes.

Diploma Lefel 2 mewn Gweinyddiaeth Busnes

Cynlluniwyd Diploma Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes ar gyfer y rheiny sy'n gweithio mewn rôl gweinyddu busnes neu rôl debyg, er enghraifft Gweinyddwr, Swyddog Cefnogi Busnes, Cynorthwyydd Swyddfa, Derbynnydd neu'n edrych mewn i swydd sy'n debyg. Mae'r hyfforddiant wedi'i gynllunio i addysgu dysgwyr sut i wella eu perfformiad a chynhyrchiant ac arbed arian i'ch busnes. 

Unedau Gorfodol:

  • Cyfathrebu mewn Amgylchedd Busnes
  • Deall Sefydliadau Cyflogwyr
  • Egwyddorion Darparu Gwasanaethau Gweinyddol
  • Egwyddorion Cynhyrchu Dogfennau Busnes a Rheoli Gwybodaeth
  • Rheoli Perfformiad a Datblygu Personol
  • Datblygu Perthnasoedd Gwaith gyda Chydweithwyr

Yn ogystal â'r unedau gorfodol, bydd eich cynghorydd hyfforddiant yn gweithio gyda chi a'ch cyflogwr i ddewis unedau dewisol sy'n berthnasol i'ch rôl. 

Byddwn yn teilwra eich rhaglen ddysgu i weddu i'ch anghenion, fel bod profiad pawb yn unigryw. Er bod anghenion yn amrywio, yr amser a argymhellir i gwblhau'r rhaglen hon yw 15 mis. 

Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2, gallech symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel 3 i ddatblygu a gwella eich sgiliau proffesiynol. 

Diploma Lefel 3 mewn Gweinyddiaeth Busnes

Mae’r Diploma mewn Busnes a Gweinyddu Lefel 3 ar gyfer pobl sydd eisoes â phrofiad o sgiliau swyddfa ac sy'n dymuno arbenigo mewn busnes a gweinyddu. Mae hefyd yn cynnwys rhai sydd mewn rôl rheolwr llinell megis Rheolwr Swyddfa neu Arweinydd Tîm, neu sydd yn paratoi ar gyfer hynny. 

Unedau Gorfodol:

  • Cyfathrebu mewn Amgylchedd Busnes
  • Rheoli Datblygiad Personol a Phroffesiynol 
  • Egwyddorion Gweinyddiaeth
  • Egwyddorion Cyfathrebu Busnes a Gwybodaeth
  • Egwyddorion Busnes 

Yn ogystal â'r unedau gorfodol, gallwch ddewis o ystod o unedau dewisol sy’n dangos eich gallu i drafod, gorchwylio, rheoli a chyfrannu at redeg swyddfa.

Dylai'r Brentisiaeth Lefel 3 gymryd tua 15 mis i chi ei chwblhau.

 

Mae cymorth gyda darllen, ysgrifennu a mathemateg hefyd ar gael