Skip to main content
/media/1011/wood-occupations-banner.jpg

Gwaith Saer

Nod y cwrs yw rhoi sgiliau ymarferol, gwybodaeth a phrofiad i ddysgwyr a fydd yn eu galluogi i weithio'n effeithiol yn y diwydiant Adeiladu. Byddwch yn datblygu eich galluoedd proffesiynol ac yn derbyn cymhwyster cydnabyddedig. 

Cynnwys

Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu

Fel rhan o brentisiaeth Lefel 3 mewn Gwaith Saer Safle, bydd angen i chi gwblhau cymhwyster Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu oni bai bod gennych gymhwyster cyfwerth cydnabyddedig. 

Mae'r cwrs Craidd Lefel 2 mewn Adeiladau a Pheirianneg Gwasanaeth Adeiladu yn rhoi cyflwyniad trylwyr i adeiladau. Mae ar gyfer pobl sy'n gweithio yn y sectorau hyn, neu'n bwriadu gweithio ynddynt. 

Mae unedau craidd y cymhwyster hwn yn cwmpasu chwe phwnc gorfodol gan gynnwys sgiliau gyrfa a chyflogadwyedd, iechyd a diogelwch a chyflwyniad i sectorau a chrefftau adeiladau ac amgylchedd adeiledig. 

Byddwn yn teilwra eich rhaglen ddysgu i weddu i'ch anghenion fel bod profiad pawb yn unigryw. Er bod anghenion yn amrywio, yr amser a argymhellir i gwbhlau'r rhaglen hon yw 15 mis.

Ar ôl cwblhau'r cymhwyster Craidd, byddwch yn gallu mynd ymlaen i astudio ar gyfer eich cymhwyster Lefel 3 mewn Gwaith Saer fel rhan o'ch prentisiaeth. 

Prentisiaeth Lefel 3 Gwaith Saer

Gwneir y brentisiaeth hon i roi'r wybodaeth a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch i wneud y tasgau ar gyfer gwaith coed ar safle mewn adeiladau masnachol, diwydiannol a phreswyl. 

Mae'r unedau'n amrywio o sefydlu a defnyddio peiriannau torri a siapio cludadwy yn y gweithle i osod cydrannau gosod cyntaf ac ail osod pwrpasol yn y gweithle a llawer mwy.

Yn ogystal â'r unedau gorfodol, bydd eich cynghorydd hyfforddiant yn gweithio gyda chi a'ch cyflogwr i ddewis unedau dewisol sy'n berthnasol i'ch rôl.

Dylai'r Brentisiaeth Lefel 3 gymryd tua 4 blynedd i'w chwblhau, gan gynnwys yr amser a dreulir ar gyflawni'r cymhwyster Craidd Lefel 2.

Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth gwaith coed safle hon yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud cais am gerdyn crefft CSCS, symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel Uwch briodol neu symud ymlaen yn eich gyrfa trwy dderbyn hyfforddiant ychwanegol ar gyfer swyddi fel rheolwr safle neu orchwyliwr gweithdy. 

Mae cymorth gyda darllen, ysgrifennu a mathemateg hefyd ar gael