Skip to main content
/media/1018/vehicle-maintenance-repair-workshop-banner.jpg

Atgyweirio a Chynnal a Chadw Cerbydau

Mae ein cyrsiau hyfforddi yn ddelfrydol ar gyfer y rhain sy'n newydd i'r diwydiant moduro, neu'r gweithwyr profiadol hynny nad ydynt efallai wedi cwblhau hyfforddiant ffurfiol ond a hoffai gwblhau cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol i'w galluogi i symud ymlaen yn eu rôl ddewisol. 

Cynnwys

Prentisiaeth Lefel 2

Bydd y brentisiaeth lefel 2 yn addas i chi os ydych eisoes wedi datblygu sylfaen dda o sgiliau a gwybodaeth sydd eu hangen i ddod yn dechnegydd gwasanaeth cerbydau ac yn barod i symud ymlaen.

Mae cynnwys y cyrsiau yn cynnwys cynna; a chadw cerbyd arferol, unedau a chydrannau injan, unedau siasi, sut i wneud diagnosis a chywiro systemau injan cerbydau ac unedau systemau egsôsts.  Gellir teilwra unedau i weddu i ofynion unigolyn.

Byddwn yn teilwra eich rhaglen ddysgu i weddu i'ch anghenion, fel bod profiad pawb yn unigryw. Er bod anghenion yn amrywio, yr amser a argymhellir i gwblhau'r rhaglen hon yw 22 mis.

Yn ogystal â'r unedau gorfodol bydd eich cynghorydd hyfforddiant yn gweithio gyda chi a'ch cyflogwr i ddewis unedau dewisol sy’n berthnasol i'ch rôl. 

Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2, gallech symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel 3 i ddatblygu a gwella eich sgiliau proffesiynol. 

Prentisiaeth Lefel 3

Os oes gennych chi lawr o wybodaeth a galluoedd technegol ac eisiau cymryd mwy o gyfrifoldeb trwy reoli eraill, neu ddod yn dechnegydd diagnostig, mae Lefel 3 yn addas i chi. Bydd gennych hanes cadarn o ddiogelwch, trwsio camgymeriadau, a sicrhau bod y dasg yn cyrraedd safon angenrheidiol wrth weithio heb fawr o oruchwyliaeth.

Mae'r cwrs Prentisiaeth Lefel 3 yn cynnwys cywiro goleuadau injan, namau siasi, namau injan hylosgi, namau trydanol ategol a chyflawni gweithrediadau foltedd nad yw'n uchel ar, ger neu gyda cherbyd trydan.

Yn ogystal â'r unedau gorfodol, bydd eich cynghorydd hyfforddiant yn gweithio gyda chi a'ch cyflogwr i ddewis unedau dewisol sy’n berthnasol i'ch swydd.

Ar ôl cwblhau prentisiaeth Lefel 3, byddwch yn dechnegydd diagnostig cymwys gyda holl gydrannau cerbydau modern.

Dylai'r Brentisiaeth Lefel 3 gymryd 18 mis i chi ei chwblhau.

Mae cymorth gyda darllen, ysgrifennu a mathemateg hefyd ar gael