Skip to main content
/media/1014/plumbing-banner.jpg

Gwaith Plymio a Gwresogi

Rydym ni'n cynnig cyrsiau plymio i bobl a hoffai ddechrau gweithio yn y diwydiant Plymio a phlymwyr cymwysedig sydd am ennill cymwysterau plymwaith pellach.

Nod y cwrs yw rhoi sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ymarferol i ddysgwyr a fydd yn eu galluogi i weithio'n effeithiol yn y diwydiant Plymio.

 

 

Cynnwys

Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau

Fel rhan o brentisiaeth Lefel 3 mewn plymio a Gwresogi, bydd angen i chi gwblhau cymhwyster Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu oni bai bod gennych gymhwyster cyfwerth cydnabyddedig.

Mae'r Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladau yn rhoi cyflwyniad trylwyr i adeiladau. Mae ar gyfer pobl sy'n gweithio yn y sectorau hyn, neu'n bwriadu gweithio ynddynt. 

Mae unedau craidd y cymhwyster hwn yn cwmpasu chwe phwnc gorfodol gan gynnwys giliau gyrfa a chyflogadwyedd, iechyd a diogelwch a chyflwyniad i i sectorau a chrefftau adeiladau ac amgylchedd adeiledig. 

Byddwn yn teilwra eich rhaglen ddysgu i weddu 'i’ch anghenion, fel bod profiad pawb yn unigryw. Er bod anghenion yn amrywio, yr amser a argymhellir i gwblhau'r rhaglen hon yw 15 mis.

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster Craidd, byddwch yn gallu mynd i astudio ar gyfer i’ch cymhwyster Lefel 3 mewn Plymio a Gwresogi fel rhan o'ch prentisiaeth.

Prentisiaeth Plymio a Gwresogi Lefel 3

Gwneir y brentisiaeth hon i roi'r wybodaeth a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch i wneud y tasgau ar gyfer gwaith plymwr mewn adeiladau masnachol, diwydiannol a phreswyl. 

Mae'r pynciau allweddol ar gyfer yr unedau'n cynnwys cynllunio, dewis, gosod, comisiynu, technegau gwasanaethu a chynnal a chadw ar gyfer dwr oer, dwr poeth, gwres canolog a systemau draenio uwchben y ddaear.

Dylai'r Brentisiaeth Lefel 3 tua 4 blynedd i'w chwblhau, gan gynnwys yr amser a dreulir ar gyflawni'r cymhwyster Craidd Lefel 2.

Ar ôl cwblhau prentisiaeth Plymwaith a Gwresogi yn llwyddiannus, byddwch yn gallu symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel Uwch briodol neu symud ymlaen yn eich gyrfa trwy dderbyn hyfforddiant ychwanegol ar gyfer swyddi fel rheolwr safle neu gorchwylir gweithdy. Mae llawer o blymwyr yn cychwyn eu busnesau eu hunain ac yn cyflogi staff.