Skip to main content
/media/1010/hairdressing-banner.jpg

Trin Gwallt

Bydd ein cyrsiau trin gwallt yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau i'w defnyddio mewn diwydiant sy'n newid yn gyson. Caiff eich sgiliau arbenigol eu datblygu drwy weithio mewn amgylchedd masnachol bywiog gyda chymorth hyfforddwyr ac aseswyr arbenigol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn mynd i'r afael ag agweddau go iawn ar y gwasanaeth drwy gael profiad uniongyrchol o weithio yn y diwydiant.

Cynnwys

Mae'r hyfforddiant yn amrywio o Lefel 1 i Lefel 3 ac mae natur alwedigaethol gryf y rhaglen yn cael ei chadarnhau drwy'r asesiadau ymarferol, ysgrifenedig a llafar y mae'n rhaid i'r myfyrwyr eu cwblhau er mwyn meithrin ymwybyddiaeth fasnachol ac addasrwydd ar gyfer cyflogaeth. Cewch eich hyfforddi drwy diwrnod astudio yn ein canolfannau hyfforddi lle byddwn yn darparu amgylchedd gwaith realistig gyda chleientiaid sy'n talu am y triniaethau. Bydd darlithwyr gwadd o gwmnïau cynnyrch, teithiau astudio a chystadlaethau yn ategu astudiaethau'r myfyrwyr.

Gofynion Mynediad y Rhaglen

Ar ôl ymgeisio byddwch yn cael cyfweliad ffurfiol gydag aelod o'r tîm hyfforddi. Bydd asesiad cychwynnol yn pennu'r lefel mynediad cwrs priodol. Rhaid dangos lefel uchel o ymrwymiad at ddysgu a dyheadau i weithio yn y diwydiant.

Dilyniant

Bydd ein cyrsiau yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau astudio er mwyn i chi allu cyrraedd eich potensial llawn a symud ymlaen at astudiaethau pellach neu gyflogaeth. Gallai'r cymwysterau a gynhigiwn arwain at gyfleoedd megis gweithio mewn salonau, canolfannau hamdden, llongau mordeithio, teledu, llwyfan neu ffilm, sba, gwestai neu hyd yn oed rhedeg eich busnes eich hun. Mae salon HCT wedi'i gynllunio a'i gyfarparu yn unol â gofynion diwydiant presennol.

Mae cymorth gyda darllen, ysgrifennu a mathemateg hefyd ar gael