Skip to main content
/media/1017/electrotechnical-services-installation-banner.jpg

Gosodiad Electrodechnegol

Nod y cwrs yw rhoi sgiliau ymarferol, gwybodaeth a phrofiad i ddysgwyr a fydd yn eu galluogi i weithio'n effeithiol yn y diwydiant Adeiladu. Byddwch yn datblygu eich galluoedd proffesiynol ac yn derbyn cymhwyster cydnabyddedig. 

 

Cynnwys

Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau

Fel rhan o brentisiaeth Lefel 3 mewn Electrodechnegol, bydd angen i chi gwblhau cymhwyster Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu oni bai bod gennych gymhwyster cyfwerth cydnabyddedig.

Mae'r cwrs Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn rhoi cyflwyniad trylwyr i adeiladu. Mae ar gyfer pobl sy'n gweithio yn y sectorau hyn, neu'n bwriadu gweithio ynddynt.

Mae unedau craidd y cymhwyster hwn yn cwmpasu chwe phwnc gorfodol gan gynnwys sgiliau gyrfa a chyflogadwyedd, iechyd a diogelwch a chyflwyniad i sectorau a chrefftau adeiladau ac amgylchedd adeiledig.

Byddwn yn teilwra eich rhaglen ddysgu i weddu i'ch anghenion, fel bod profiad pawb yn unigryw. Er bod anghenion yn amrywio, yr amser a argymhellir i gwblhau'r rhaglen hon yw 12 mis. 

Ar ôl cwblhau'r cymhwyster Craidd, byddwch yn gallu mynd ymlaen i astudio ar gyfer eich cymhwyster Lefel 3 mewn Electrodechnegol fel rhan o'ch prentisiaeth.

Prentisiaeth Electrodechnegol Lefel 3

Bydd y cymhwyster hwn yn eich galluogi i ddatblygu eich:

  • gallu i gynllunio prosiectau gwaith yn effeithio gan ddefnyddio'r sgiliau priodol ar gyfer eich crefft mewn amgylchedd gwaith
  • gwybodaeth a dealltwriaeth o'r offer, technegau, defnyddiau a thechnolegau a ddefnyddir yn eich masnach, a sut maent wedi newid dros amser
  • sgiliau cyflogadwyedd a'ch gallu i'w defnyddio mewn amgylchedd gwaith
  • dealltwriaeth o gynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol
  • perfformiad galwadigaethol a gwybodaeth am eich crefft mewn cyd-destun gwaith.

Dylai'r fframwaith prentisiaeth gymryd tua 5 mlynedd i chi ei gyflawni gan gynnwys amser a dreulir ar gyflawni'r Craidd Lefel 2 ac unrhyw sgiliau hanfodol gofynnol.

Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth electrodechnegol hon yn llwyddiannus byddwch yn gallu gwneud cais am Gerdyn Aur ECS, symud ymlaen i brentisiaeth lefel uwch neu symud ymlaen yn eich gyrfa.

Mae cymorth gyda darllen, ysgrifennu a mathemateg hefyd ar gael