Skip to main content
/media/1015/agriculture-banner.jpg

Amaethyddiaeth

Nod y cwrs yw rhoi'r sgiliau ymarferol, y wybodaeth a'r profiad i'ch galluogi i weithio'n effeithiol o fewn y diwydiant Amaethyddiaeth. Byddwch yn datblygu eich gallu proffesiynol ac yn derbyn cymhwyster cydnabyddedig.

Cynnwys

Prentisiaeth Lefel 2

Mae Cwrs Lefel 2 yn addas os ydych chi'n newydd i Amaethyddiaeth neu os oes gennych rywfaint o sgiliau a gwybodaeth sylfaenol yn y maes.

Efallai yr hoffech chi ddatblygu eich sgiliau ymhellach er mwyn gweithio ar fferm neu symud ymlaen i gwrs prentisiaeth Lefel 3.

Gan ganolbwyntio ar egwyddorion ac arferion amaethyddiaeth mewn lleoliad gwaith, byddwch chi'n dysgu ar feysydd o ddiddordeb fel cynhyrchu cnydau, ffermio cymysg, cynhyrchu stoc anifeiliaid byw neu gynhyrchu dofednod, a fydd yn eich galluogi chi i fedru symud ymlaen i yrfa mewn ffermio.

Byddwn yn addasu eich rhaglen ddysgu i weddu eich anghenion, fel bod profiad pawb yn unigryw. Er bod anghenion yn amrywio, yr amser a argymhellir i gwblhau'r rhaglen hon yw 24 mis.

Yn ogystal â'r unedau gorfodol, bydd eich ymgynghorydd hyfforddi yn gweithio gyda chi a'ch cyflogwr i ddewis unedau addas sy'n berthnasol i'ch rôl chi.

Ar ôl i chi gwblhau eich Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2, gallwch symud ymlaen i'r Brentisiaeth Lefel 3 i ddatblygu a gwella eich sgiliau proffesiynol.

Prentisiaeth Lefel 3

Mae cwrs Lefel 3 yn ddelfrydol os oes gennych brofiad amaethyddol neu gymhwyster Lefel 2. Mae'n meithrin sgiliau ar gyfer rolau uwch megis rheolwr fferm neu hyfforddiant pellach.

Mae'r rhaglen hyfforddi seiliedig ar waith hon yn canolbwyntio ar egwyddorion craidd a sgiliau ymarferol amaethyddiaeth fodern. Byddwch yn cael profiad ymarferol wrth ddatblygu gwybodaeth mewn meysydd allweddol fel:

  • Cynhyrchu Cnydau
  • Ffermio Cymysg
  • Cynhyrchu Stoc Anifeiliaid Byw
  • Cynhyrchu Dofednod

Yn ogystal â'r unedau gorfodol, bydd eich ymgynghorydd hyfforddi yn gweithio gyda chi a'ch cyflogwr i ddewis unedau addas sy'n berthnasol i'ch rôl chi.

Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth Lefel 3, bydd yn agor drysau i amrywiaeth o rolau fel:

  • Technegydd Amaethyddol/Garddwriaethol
  • Gweithiwr Fferm (Cnydau)
  • Gweithiwr Fferm (Stoc Anifeiliaid Byw)
  • Rheolwr Fferm
  • Ysgrifennydd Fferm

Yr amser a argymhellir i gwblhau'r rhaglen Brentisiaeth Lefel 3 yw 21 mis.

Mae cymorth gyda darllen, ysgrifennu a mathemateg hefyd ar gael.