Datblygiad
Mae ein rhaglen Datblygiad ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed sy’n barod i ddatblygu sgiliau galwedigaethol ac ennill cymhwyster cydnabyddedig. Rydym yn cynnig amrywiaeth o lwybrau sy’n para 52 wythnos, gyda dysgwyr yn gweithio tuag at NVQ/Diploma yn y maes pwnc o’u dewis. Gall y cymhwyster hwn wedyn arwain at Brentisiaeth a chael eich cyflogi fel gweithiwr, gan arwain at yrfa werth chweil.
Yn HCT, cynigir Twf Swyddi Cymru+ yn y meysydd / pynciau canlynol:
Tra ar y rhaglen Datblygiad, bydd dysgwyr yn derbyn lwfans hyfforddi o £60 yr wythnos (yn seiliedig ar isafswm o 30 awr yr wythnos), lwfans cinio, a gallant hawlio costau teithio rhesymol.
Mae’r rhaglen wedi’i strwythuro o amgylch 4 diwrnod mewn lleoliad gwaith (er enghraifft salon trin gwallt neu garej) ac un diwrnod yng Nghanolfan Ddysgu Llanbadarn. Yn ystod eu diwrnod yn y ganolfan, mae dysgwyr yn datblygu eu Sgiliau Hanfodol mewn llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol, tra hefyd yn cwblhau elfennau damcaniaethol eu cymhwyster dewisol. Yn ystod eich un diwrnod yr wythnos yn HCT, byddwch yn gweithio gyda dysgwyr eraill ar yr un cwrs â chi'ch hun a bydd hyn yn rhoi cyfle i chi rannu profiadau a chefnogi eich gilydd drwy gydol y cwrs.
Arweinir rhaglen Twf Swyddi Cymru+ gan Lywodraeth Cymru.
Os hoffech wybod mwy am y rhaglen dan Twf Swyddi Cymru+, llenwch ein ffurflen ymholiadau ar-lein ar info@hctceredigion.org.uk neu ffoniwch 01970 633040.