Skip to main content
/media/1030/traineeships-banner.jpg

Twf Swyddi Cymru+

Unwaith yr ydych wedi dewis "llwybr" i'w ddilyn, byddwn yn gweithio gyda dysgwyr i ddod o hyd i leoliad gwaith addas er mwyn iddynt symud ymlaen at gymhwyster Lefel 1 (NVQ). Gall y cymhwyster yma wedyn arwain at Brentisiaeth a chael eich cyflogi, gan arwain at yrfa foddhaol.

Yn HCT, cynigir Twf Swyddi CYmru+ yn y meysydd / pynciau canlynol:

Tra eich bod ar y cwrs Lefel 1 byddwch yn derbyn lwfans o £55 yr wythnos (am fynychu y lleoliad gwaith a HCT am o leiaf 30 awr yr wythnos) a gallwch hawlio costau teithio rhesymol.

Mae'r model a ddefnyddiwn ar gyfer hyfforddeion yn seiliedig ar leoliad gwaith 4 diwrnod ac 1 diwrnod (yr wythnos) yn HCT, lle caiff dysgwyr hyfforddiant ar Sgiliau Hanfodol (rhifedd a llythrennedd) ac agweddau theori o'r dewis lwybr. Yn ystod eich un diwrnod yr wythnos yn HCT, byddwch yn gweithio gyda dysgwyr eraill ar yr un cwrs â chi a bydd hyn yn rhoi cyfle i chi rannu profiadau a chefnogi eich gilydd yn ystod y cwrs.

Cefnogir Rhaglenni Twf Swyddi Cymru+, a arweinir gan Lywodraeth Cymru, gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Os hoffech wybod mwy am y rhaglen dan Twf Swyddi Cymru+, llenwch ein ffurflen ymholiadau ar-lein ar info@hctceredigion.org.uk neu ffoniwch 01970 633040.