Skip to main content

Twf Swyddi Cymru+

Cael eich talu i ddysgu!

Mae ein rhaglen Ymgysylltu 26 wythnos ar gyfer pobl ifanc 16-19 oed nad ydynt yn siŵr pa yrfa y dymunant ei ddilyn ac sydd angen cymorth i edrych ar opsiynau ar gyfer symud ymlaen.

Mae dysgwyr yn derbyn lwfans o £30 yr wythnos i fynychu rhaglen Ymgysylltu a gallant hawlio costau teithio rhesymol.

Mae'r rhaglen yn oddeutu 24 wythnos o hyd ac yn cynnwys cyfnod dechreuol o 12 wythnos sydd yn canolbwyntio ar hyfforddiant Cyflogadwyedd a Sgiliau Hanfodol, a dilynir hyn gan leoliad gwaith/treial 8 wythnos, pan edrychir yn fwy manwl ar lwybrau cynyddol.

Mae'r rhaglenni dan Twf Swyddi Cymru+ a gynigiwn yn cynnwys pob llwybr ac yn para 40-52 wythnos, gyda dysgwyr yn derbyn Lefel 1 NVQ yn y meysydd o'u dewis.

Tra eu bod ar y rhaglen Twf Swyddi Cymru+ bydd dysgwyr yn derbyn lwfans o £55 yr wythnos (yn seiliedig ar 30 awr yr wythnos) a gallant hawlio costau teithio rhesymol.

Seilir y model ar 4 diwrnod o waith mewn lleoliad gwaith (e.e.siop neu garej) ac un diwrnod yng Nghanolfan Ddysgu Llanbadarn, lle byddwch yn derbyn hyfforddiant Sgiliau Hanfodol (rhifedd, llythrennedd a llythrennedd digidol) tra hefyd yn dysgu am agweddau theori eich cwrs.