Skip to main content

Mae Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT)

yn cynnig amrediad o gyrsiau galwedigaethol i baratoi pobl o bob oed ar gyfer y gweithle drwy ddarparu hyfforddiant sgiliau yn y meysydd canlynol:

Gall dysgwyr gofrestru ar rhaglenni Twf Swyddi Cymru+ (Lefel 1) neu rhaglenni Prentisiaethau (Lefel 2 & 3), gyda chymorth yn cael ei roi i ddod o hyd i leoliadau gwaith a sicrhau swydd llawn amser.

Yr ydym hefyd yn gweithio gyda phobl nad ydynt eto yn gwybod pa yrfa y dymunant ei ddilyn ac yn cynnig rhaglen "ymgysylltu" sydd yn paratoi pobl ifanc (16-18 oed) ar gyfer gwaith drwy ysgrifennu CV, edrych am swydd ac ymgymryd â sgiliau hanfodol a gwersi cyflogadwyedd. Tra eu bod ar y cwrs 3 diwrnod yr wythnos yma (21 awr), gall dysgwyr dderbyn hyd at £30 yr wythnos a chael help tuag at gostau teithio.

Mae ein ymgynghorwyr hyfforddiant yn gweithio'n agos gyda phob ysgol uwchradd yng Ngheredigion, gan gynnig cyrsiau sydd yn cyfateb i TGAU a Lefel A mewn sgiliau galwedigaethol, gan hefyd ddarparu gwersi i blant ysgol ar y Cwricwlwm Amgen.

Yr ydym yn cynnig amrediad i gyrsiau galwedigaethol preifat sydd yn agored i bawb, gan roi cyfle i chi ddysgu am waith plymwr, gwaith saer etc. sgiliau elfennol at ddefnydd bob dydd.

Cover photo


City and Guilds logo
ACT developing learning logo
Agored Cymru logo
Caru Love Ceredigion logo
European Social Fund logo

Arweinir y Rhaglenni Prentisiaethau a Thwf Swyddi Cymru+ gan Lywodraeth Cymru