Peirianneg Moduron
Disgwylir i'r galw am weithwyr proffesiynol ym maes peirianneg moduron gynyddu yn y DU yn ystod y 10 mlynedd nesaf yn sgil datblygiadau mewn technoleg, newidiadau yn y diwydiant a galw gan ddefnyddwyr.
Mae ein cyrsiau hyfforddi yn ddelfrydol i'r rhai sy'n newydd i'r diwydiant Moduro, neu'r rhai sy'n weithwyr profiadol sydd heb gwblhau hyfforddiant ffurfiol ond efallai a hoffai ennill cymwysterau cenedlaethol cydnabyddedig a fydd yn eu galluogi i ddatblygu yn y rôl gwaith o'u dewis.
Cynnwys
Rydym ni'n cynnig cymwysterau cerbydau modur ymarferol a allai'ch cynorthwyo chi i symud o'ch swydd gyntaf mewn gweithdy trwsio ceir i rôl lle rydych chi'n goruchwylio tîm o bobl, neu sefydlu eich busnes eich hun.
Mae'r cyrsiau yn cynnwys gwaith cynnal a chadw cerbydau arferol, unedau a chydrannau injan, unedau siasi, sut i gynnal diagnosis a chywiro namau mewn systemau injan cerbydau a chydrannau, a chynnal archwiliadau cyn ac ar ôl cwblhau'r gwaith. Gall yr unedau gael eu teilwra i weddu i ofynion unigol.
Rydym ni hefyd yn cynnig pecynnau pwrpasol wedi'u teilwra sy'n addas i gyflogwyr neu unigolion yn seiliedig ar eu hanghenion penodol chi. Cysylltwch â ni i gael rhagor o fanylion.
Dilyniant
Bydd myfyrwyr yn cael cyfle i symud ymlaen at gymhwyster lefel uwch neu ddilyn Prentisiaeth Uwch.
Mae cymorth gyda darllen, ysgrifennu a mathemateg hefyd ar gael