Skip to main content
/media/1025/resources-and-workshops-banner.jpg

Adnoddau / Gweithdai

Mae yna nifer o adnoddau, cyfleusterau a gweithdai ar hyfforddiant sy'n darparu amgylchedd hyfforddi rhagorol sy'n gydnaws â dysgu. Mae gweithdai yn efelychu amgylchedd bywyd go iawn ac yn galluogi dysgwyr i ymgymryd â thasgau gwaith ymarferol sydd yn rhan hanfodol o'r fframweithiau NVQ, gyda dysgwyr yn cael eu hasesu ar y rhain fel rhan o'u profiad dysgu galwedigaethol. Mae gan dysgwyr HCT darpariaeth e-bost a mewngofnodi tra eu bod wedi cofrestru ar yr hyfforddiant.

Mae ein hadnoddau yn cynnwys y canlynol:

  • Salon Trin gwallt - salon trin gwallt gyda 9 gorsaf ar gyfer dysgwyr i weithio ar naill ai gyd-ddysgwyr neu gleientiaid masnachol ac maent yn cael eu hasesu. 
  • Gweithdy Gwaith Coed - gweithdy mawr sydd yn darparu cyfleusterau i ddysgwyr i ymgymryd ag amrywiaeth o dasgau gwaith coed e.e. hongian drysau, adeiladu grisiau, gosod unedau cegin ac ati gydag amrywiaeth o offer llaw a thrydanol ar gyfer gwneud gwaith coed
  • Gweithdy Plymio - ardaloedd penodol sy'n caniatáu i dasgau plymio ymarferol gael eu cwblhau, megis gosod ystafelloedd ymolchi, cypyrddau crasu a boeleri gwres canolog
  • Adeilad ar gyfer Gwaith Gof - cyfleusterau pwrpasol sy'n cynnwys ffwrn golosg a 2 ffwrn nwy lle y gall dysgwyr ddatblygu eu sgiliau gwaith metel, gydag einion ac amrywiaeth o offer gwaith metel a chyfarpar diogelwch
  • Gweithdy Mecaneg Moduron - wedi ei sefydlu fel garej weithiol, gyda 2 ramp ar gyfer cerbydau a phob offer arferol yn gysylltiedig â mecaneg moduron ar gyfer trwsio ac adnewyddu, teiars, archwilio injans, profion MOT ac ati. Ceir stoc o geir prosiect er mwyn i ddysgwyr weithio arnynt.
  • Gweithdy Trydanol - yn darparu cyfleusterau i ddysgwyr ennill gwybodaeth a dealltwriaeth o'r offer, technegau, defnyddiau a thechnolegau a ddefnyddir yn y diwydiant trydanol, gan gynnwys cyfyngiant a gosod ceblau, cylchedau goleuo a phŵer a rigiau profi byw/marw. 
  • Ystafelloedd Hyfforddi TG - mae gan HCT Chwech ystafell hyfforddi TG sydd yn cynnwys dros 30 o gyfrifiaduron. Gall dysgwyr ddefnyddio y PCs ar gyfer gwersi a / neu i wneud gwaith neu er mwyn chwilio am swyddi yn eu hamser eu hunain. Darperir mynediad llawn i’r rhyngrwyd, gydag arholiadau ar-lein a phrofion sgiliau hanfodol ac ymarferion datblygu
  • Ystafelloedd Hyfforddi / Cynadledda - yn ein ystafelloedd hyfforddiant ceir smartboards rhyngweithiol ac mae gennym ystafell gynadledda gyfforddus y gellir ei defnyddio gan staff, dysgwyr a grwpiau allanol drwy archebu ymlaen llaw
  • Adnoddau Dysgwyr - mae gennym cegin llawn offer y gall dysgwyr eu defnyddio yn ystod egwyl / amser cinio, gyda thegell, microdon, tostiwr a pheiriant golchi llestri.
  • Peiriannau Gwerthu Diodydd / Byrbrydau - nid oes ffreutur yn HCT ond rydym yn agos i Morrisons, McDonald a siopau lleol eraill y gall dysgwyr eu defnyddio