Skip to main content
/media/1028/about-us-banner.jpg

Amdano Ni

Mae HCT yn rhan o adran Gwasanaethau Dysgu Cyngor Sir Ceredigion ac mae wedi chwarae rhan weithredol wrth ddysgu yn seiliedig ar waith yng Ngheredigion ers dros 28 mlynedd.

Mae HCT yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni hyfforddi a chyrsiau i bobl Ceredigion, sydd am wella cyflogadwyedd dysgwyr unigol a darparu sgiliau ar gyfer cyflogwyr yn y sir. Yn ogystal â gweithio'n agos gydag ysgolion wrth ddarparu cwricwlwm galwedigaethol ac amgen, mae HCT yn darparu rhaglenni dan hyfforddiant a phrentisiaethau yn seiliedig ar waith ar ran Llywodraeth Cymru, ar hyn o bryd drwy gontractio is-gytundebau gyda ACT Ltd. Mae HCT hefyd yn darparu hyfforddiant ar sail fasnachol i'r gymuned ehangach mewn gwahanol feysydd galwedigaethol.

Mae HCT yn hyrwyddo Agenda Llwybrau Dysgu 14-19 ac ar hyn o bryd yn darparu hyfforddiant galwedigaethol i lawer o ysgolion uwchradd Ceredigion i'w galluogi i gwrdd â gofynion y Mesur Dysgu a Sgiliau.