Gosod Gwasanaethau Electrotechnegol
Nod y cwrs yw rhoi sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ymarferol i chi a fydd yn eich galluogi chi i fod yn drydanwr cymwysedig.
Mae HCT yn cynnig cyrsiau i bobl a hoffai ddechrau gweithio yn y diwydiant a thrydanwyr cymwysedig sydd am ennill cymwysterau pellach.
Cynnwys
Mae'r Brentisiaeth hon yn cynnwys y cymwysterau gorfodol canlynol
Lefel 2 - Cymhwyster Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu
EAL Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 3) – Gosod Electrodechnegol
Bydd y cymwysterau hyn yn eich galluogi i ddatblygu eich:
- gallu i gynllunio prosiectau gwaith yn effeithiol gan ddefnyddio'r sgiliau priodol ar gyfer eich crefft mewn amgylchedd gwaith
- gwybodaeth a dealltwriaeth o'r offer, technegau, defnyddiau, a thechnolegau a ddefnyddir yn eich crefft, a sut maent wedi newid dros amser
- sgiliau cyflogadwyedd a'ch gallu i'w defnyddio mewn amgylchedd gwaith
- dealltwriaeth o gynaliadwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol
- perfformiad galwedigaethol a gwybodaeth am eich crefft mewn cyd-destun gwaith.
Bydd yn ofynnol i bob Prentis fodloni gofyniad asesiad terfynol cydnabyddedig y diwydiant y cyfeirir ato fel AM2S. Pwrpas asesiad AM2S yw sicrhau bod pob trydanwr yn cyrraedd safon gyson y cytunwyd arni gan gyflogwyr ar draws y DU fel un sy’n bodloni eu disgwyliadau ar gyfer person cymwys.
Efallai y bydd gofyn i chi hefyd gwblhau cymhwyster sgiliau Hanfodol mewn Cyfathrebu, Cymhwyso Rhif a/neu Lythrennedd Digidol.
Darparu
Diwrnod astudio 1 diwrnod yr wythnos yn HCT Aberystwyth, 4 diwrnod yr wythnos gyda chyflogwr.
Dylai'r fframwaith prentisiaeth gymryd tua 5 mlynedd i chi ei gyflawni gan gynnwys amser a dreulir ar gyflawni'r Cymhwyster Craidd Lefel 2 ac unrhyw sgiliau Hanfodol gofynnol.
Gofynion Mynediad i'r Rhaglen
16+ oed sy’n gweithio yn y maes masnach ar hyn o bryd neu sydd â chynnig lle prentisiaeth gan gyflogwr
TGAU gradd A-C ym mhob un o’r canlynol: - pwnc cyfathrebu, mathemateg a naill ai pwnc gwyddonol neu dechnegol (e.e., Dylunio a Thechnoleg, Electroneg ac ati) neu gyfwerth.
Rhaid i bob prentis weithio gyda Thrydanwr cwbl gymwys i allu ennill y cymhwyster hwn.
Cynnydd
Ar ôl cwblhau'r Brentisiaeth hon mewn Gosod Electrodechnegol yn llwyddiannus bydd prentis yn meddu ar y sgiliau a'r wybodaeth, a bydd ganddo'r cymwysterau i fod yn drydanwr cwbl gymwys.
Gwnewch gais am y cerdyn Aur Gosod Trydanol trwy ECS yn ecscard.org.uk
Symud ymlaen i gymwysterau Lefel 4/5 perthnasol e.e., Technoleg Peirianneg Gwasanaethau Adeiladau a Rheoli Prosiectau neu Radd Sylfaen mewn Peirianneg
Symud ymlaen i Brentisiaeth Lefel Uwch berthnasol