Skip to main content
/media/1019/business-administration-banner.jpg

Gweinyddiaeth Busnes

Cynlluniwyd Diploma mewn Gweinyddiaeth Busnes ar gyfer y rheiny sy'n gweithio yn mewn rôl gweinyddu busnes neu'n gobeithio gwneud hynny neu rywbeth tebyg, er enghraifft Gweinyddwr, Swyddog Cefnogi Busnes, Cynorthwyydd Swyddfa neu Derbynnydd. Mae'r hyfforddiant wedi'i gynllunio i addysgu dysgwyr sut i wella eu perfformiad a chynhyrchiant ac arbed arian i'ch busnes.

Diploma Lefel 2 mewn Gweinyddiaeth Busnes

Cynlluniwyd Diploma Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes ar gyfer y rheiny sy'n gweithio mewn rôl gweinyddu busnes neu rôl debyg, er enghraifft Gweinyddwr, Swyddog Cefnogi Busnes, Cynorthwyydd Swyddfa, Derbynnydd neu'n edrych mewn i swydd sy'n debyg. Mae'r hyfforddiant wedi'i gynllunio i addysgu dysgwyr sut i wella eu perfformiad a chynhyrchiant ac arbed arian i'ch busnes. Mae'n cynnwys darparu gwasanaethau gweinyddol effeithiol megis cynorthwyo, cynhyrchu a rheoli dogfennau a gwybodaeth, rheoli dyddiaduron a threfniadau teithio yn ogystal â rheoli eich datblygiad personol a phroffesiynol eich hun.

Diploma Lefel 3 mewn Gweinyddiaeth Busnes

Mae’r Diploma mewn Busnes a Gweinyddu Lefel 3 ar gyfer pobl sydd eisoes â phrofiad o sgiliau swyddfa ac sy'n dymuno arbenigo mewn busnes a gweinyddu. Mae hefyd yn cynnwys rhai sydd mewn rôl rheolwr llinell megis Rheolwr Swyddfa neu Arweinydd Tîm, neu sydd yn paratoi ar gyfer hynny. Gall dysgwyr ddewis o blith amrediad o unedau dewisol sy'n dangos eu gallu i drafod, goruchwylio, rheoli a chyfrannu tuag at redeg swyddfa.

Mae cymorth gyda darllen, ysgrifennu a mathemateg hefyd ar gael