Skip to main content

Mae Hyfforddiant Ceredigion Training (HCT)

yn cynnig amrediad o gyrsiau galwedigaethol i baratoi pobl o bob oed ar gyfer y gweithle drwy ddarparu hyfforddiant sgiliau yn y meysydd canlynol:

Gall dysgwyr gofrestru ar rhaglenni Twf Swyddi Cymru+ (Lefel 1) neu rhaglenni Prentisiaethau (Lefel 2 & 3), gyda chymorth yn cael ei roi i ddod o hyd i leoliadau gwaith a sicrhau swydd llawn amser.

Yr ydym hefyd yn gweithio gyda phobl nad ydynt eto yn gwybod pa yrfa y dymunant ei ddilyn ac yn cynnig rhaglen "ymgysylltu" sydd yn paratoi pobl ifanc (16-18 oed) ar gyfer gwaith drwy ysgrifennu CV, edrych am swydd ac ymgymryd â sgiliau hanfodol a gwersi cyflogadwyedd. Tra eu bod ar y cwrs 3 diwrnod yr wythnos yma (21 awr), gall dysgwyr dderbyn hyd at £30 yr wythnos a chael help tuag at gostau teithio.

Mae ein ymgynghorwyr hyfforddiant yn gweithio'n agos gyda phob ysgol uwchradd yng Ngheredigion, gan gynnig cyrsiau sydd yn cyfateb i TGAU a Lefel A mewn sgiliau galwedigaethol, gan hefyd ddarparu gwersi i blant ysgol ar y Cwricwlwm Amgen.

Cover photo


City and Guilds logo
ACT developing learning logo
Agored Cymru logo
Caru Love Ceredigion logo
European Social Fund logo

Arweinir y Rhaglenni Prentisiaethau a Thwf Swyddi Cymru+ gan Lywodraeth Cymru