Skip to main content
/media/1029/engagement-programme-banner.jpg

Rhaglen Ymgysylltu

Os ydych yn 16-18 oed a bod angen cymorth ac arweiniad arnoch wrth ddewis yr yrfa rydych am ei dilyn neu gymorth i ddod o hyd i leoliad neu waith, mae ein rhaglen Ymgysylltu ar eich cyfer chi. 

Mae’r rhaglen gyfan yn para rhyw 26 wythnos ac mae’n canolbwyntio ar sgiliau cyflogadwyedd (llunio CVs, chwilio am swydd, sgiliau ar gyfer cyfweliad, ymddygiad priodol yn y gwaith, ac ati) a gwella eich sgiliau rhifedd a llythrennedd. Yn ystod y cyfnod hwn byddwn hefyd yn cynnig sesiynau blasu i chi o blith yr holl lwybrau a gynigir gennym yn HCT:

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddod o hyd i leoliadau addas i chi a datblygu llwybr cynnydd ar eich cyfer fel eich bod yn gadael y rhaglen naill ai â swydd, lleoliad gwaith (Twf Swyddi Cymru+ neu Brentisiaeth) neu waith.  

Os hoffech wybod mwy am y rhaglen Ymgysylltu, llenwch ein ffurflen ymholiadau ar-lein ar info@hctceredigion.org.uk neu ffoniwch 01970 633040.